Lleoliad:
Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Ionawr 2018
Amser: 09.02 - 15.53
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol John Chick, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau Rebecca Hardwicke, Partner Busnes Adnoddau Dynol yr Aelodau Martin Jennings, Arweinydd y Tîm Ymchwil |
Staff y Pwyllgor: |
Sian Giddins, Dirprwy Glerc |
Tystion: |
Dr Huw Pritchard, Canolfan Llywodraethiant Cymru |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Bwrdd John Chick, a oedd wedi dychwelyd i'r Cynulliad, i'r cyfarfod. Hefyd, ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Rebecca Hardwicke a Carys Rees am eu gwaith ar ran y Bwrdd yn ystod absenoldeb John.
1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion 23 Tachwedd 2017 yn amodol ar fân newidiadau.
1.4 Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Comisiwn yn gofyn bod y ddeddfwriaeth i newid enw'r Cynulliad i Senedd Cymru hefyd yn cynnwys darpariaeth i newid enw'r Bwrdd i “Bwrdd Taliadau Annibynnol Senedd Cymru”.
1.5 Nododd y Bwrdd na fyddai ymddiswyddiad Nathan Gill a’r penderfyniad a wnaed na fyddai ei olynydd, Mandy Jones AC, yn aelod o'r grŵp UKIP yn y Cynulliad yn cael unrhyw effaith ar y lwfans ar gyfer pleidiau gwleidyddol.
1.6 Cytunodd y Bwrdd y dylai aelodaeth Grŵp Cynrychiolwyr Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad gynnwys un aelod o staff cymorth o bob plaid wleidyddol ac un cynrychiolydd o bob undeb llafur.
1.7 Nododd y Bwrdd ei ddyddiadau cyfarfod a'r dyddiadau posibl ar gyfer cyfarfodydd y Grwpiau Cynrychiolwyr.
Camau gweithredu:
Y Bwrdd i:
- ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad yn amlinellu pam yr hoffai newid ei enw;
- ysgrifennu at Grŵp Cynrychiolwyr Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad yn cadarnhau’r aelodaeth.
2.1 Ystyriodd y Bwrdd y dystiolaeth yr oedd wedi'i chlywed hyd yn hyn mewn perthynas â chylch gorchwyl yr adolygiad.
2.2 Cytunodd y Bwrdd i drefnu rhagor o gyfweliadau â’r Aelodau a’r staff cymorth, os oeddynt ar gael, i sicrhau bod ei sampl yn gynrychiadol o'r ddau grŵp.
Camau gweithredu:
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd i:
- gysylltu â swyddfeydd yr Aelodau i bennu dyddiadau cyfweld cyfleus;
- paratoi crynodeb thematig o'r holl dystiolaeth a ddaeth i law hyd yn hyn er mwyn i’r Bwrdd ei ystyried yn ei gyfarfod nesaf.
3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Dr Huw Pritchard, a oedd yn cynrychioli Canolfan Llywodraethiant Cymru, i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dr Diana Stribu.
3.2 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Dr Pritchard i roi trosolwg o'r adroddiad drafft i'r Bwrdd ac i ymateb i'r pwyntiau o eglurhad a godwyd gan y Bwrdd. Cytunodd y Dr Pritchard i ymateb i bwyntiau pellach o eglurhad trwy’r e-bost.
3.3 Cytunodd y Bwrdd i ystyried sut y byddai'n ymateb i'r argymhelliad yn yr adroddiad yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.
3.4 Cytunodd y Dr Pritchard a'r Bwrdd i drafod y strategaeth gyhoeddi a dosbarthu yn nes ymlaen.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i fod yn bwynt cyswllt rhwng y Bwrdd a Chanolfan Llywodraethiant Cymru mewn perthynas ag unrhyw bwyntiau o eglurhad a godwyd.
4.1 Ystyriodd y Bwrdd y materion a godwyd yn ystod ei ddigwyddiad ymgysylltu â’r staff cymorth.
Cyflogau’r staff cymorth ar gyfer 2018-19
5.1 Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 2.3 y cant yng nghyflogau’r staff cymorth ar gyfer 2018-19 yn unol â ffigurau’r Arolwg Blynyddol o Oriau a Enillion (ASHE) dros dro ar gyfer 2017 a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017
5.2 Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio ffigur ASHE er mwyn bod yn gyson â’r adolygiad o daliadau y llynedd.
Lwfans costau swyddfa ar gyfer 2018-19
5.3 Ystyriodd y Bwrdd y ffactorau amrywiol sy'n effeithio ar gostau swyddfa yr Aelodau, gan gynnwys lleoliad, chwyddiant, offer arbenigol a pholisïau Comisiwn y Cynulliad.
5.4 Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ar gyfer mis Medi 2017, sef 3 y cant, fel cyfradd sylfaenol i gynyddu'r lwfans. Mae hyn yn dilyn yr un egwyddorion â’r cynnydd y llynedd.
5.5 Fodd bynnag, er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn sgil penderfyniad y Comisiwn i beidio ag ariannu system gweithwyr achos yr Aelodau yn ganolog a gofynion estynedig y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 5 y cant yn y lwfans ar gyfer 2018-19.
5.6 Hefyd, ystyriodd y Bwrdd lwfans y gall yr Aelodau ei gael i dalu costau rhesymol unrhyw welliannau diogelwch a chytunwyd i gynnig bod lwfans diderfyn yn cael ei greu at y diben hwn. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i’r Aelodau gydymffurfio â meini prawf penodol er mwyn defnyddio’r lwfans.
Gwariant ar Lety Preswyl
5.7 Ystyriodd y Bwrdd y Gwariant Llety Preswyl ar gyfer 2018-19 a phenderfynwyd parhau â’r lwfans cyfredol ar gyfer Aelodau'r ardal allanol o £9,200 y flwyddyn/£775 fesul mis calendr, yr uchafswm ar gyfer atgyweiriadau hanfodol o £882 y flwyddyn, ac uchafswm y costau rhent ar gyfer Aelodau â dibynyddion o £120 y mis.
Ymgynghoriad
5.8 Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi ymgynghoriad ar yr holl gynigion uchod. 2 Mawrth 2018 yw dyddiad cau’r ymgynghoriad.
5.9 Bydd y Bwrdd yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.
Camau gweithredu:
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd i:
- gyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;
- paratoi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad i'w ystyried yng nghyfarfod mis Mawrth.
6.1 Trafododd y Bwrdd adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: ‘Senedd sy'n gweithio i Gymru’, a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am fwriadau’r Comisiwn o ran bwrw ymlaen â’r gwaith.
6.2 Cytunodd y Bwrdd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ac unrhyw benderfyniad dilynol i gyflwyno deddfwriaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyn ystyried y goblygiadau ar ei waith.
7.1 Nododd y Bwrdd:
- yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch ei ymchwiliad i’r Tanwariant sy’n Deillio o Benderfyniad y Bwrdd Taliadau;
- adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: ‘Senedd sy'n gweithio i Gymru’